Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DOS.

Cymer dy darian, a dos
Fel llanciau dy dref i'r drin;
Ni rof fy llaw i un a fo llwfr,
Na'm calon, na moeth fy min.

Uchel yw cri y cyrn,
A thaerach na chyrn erioed:
A thithau yn fodlon ar sisial serch
Yn nhawel encilion coed.

Cymer dy wayw, a dos
Yn enw y marw a'r byw:
Nid dyn ond y dewr: bydd dithau yn ddyn,
A chymer dy siawns gyda Duw.

Ai dim gennyt wrid dy chwaer,
A dagrau dy fam a'th fun?
Pa loes yw marw dros dras a bro?
Ond c'wilydd sy loes a lŷn.

Ai ofni yr ing yr wyt,
Ac ofni fferdod y ffos?
Mae mwy na digon o'th epil di—
Cymer dy fodrwy, a dos.

1915.