Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid ei glod oedd peri dolur,
Fel Peredur Baladr Hir:
Ceidw cenedl gof o'i enw,
Gymro pur o wlatgar nwyd,
Tra bo esmwyth ddyfroedd Elwy
Yn bendithio Dyffryn Clwyd.