Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IEUAN GWYNEDD.[1]

Oni chafodd rhwng y bannau
Ansigledig siglo 'i grud?
Oni wybu fel ei dadau
Arwed sang caledi 'r byd?
Oni channwyd ei wynepryd
Gan y dreigiau, gan y wawr?
Oni ddug i wersyll bywyd
Gymorth o'r mynyddoedd mawr?

Cerddodd o'r unigedd allan
Gan adduno 'n enw ei Dduw
Na chai Cymru fod yn fudan
Tan ysgórn y Sais a'i ryw:
Glew ei fro oddefus ydoedd,
Marchog ieuanc dros y gwir;
Rhoes ei lef, a llef y cymoedd
Aeth yn daran deuddeg Sir.

Pwy na ŵyr am ing ei gariad
Yng nghad Gamlan moes ei wlad?
Mellt a deigr oedd yn ei lygad—
Gwae a fu i Drioedd Brad:
Trioedd rhaith y Llyfrau Gleision,
Arnynt rhoes anfarwol daw;
Os oedd cleddyf yn ei galon,
Roedd un llymach yn ei law.

Bu yn borth i werin Cymru,
A rhianedd bro ei fam;
Beth os oedd fel llin yn mygu?
Gwnaeth eiddigedd oes yn fflam;

  1. Evan Jones (Ieuan Gwynedd 1820-1852)