Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Barlwydon Llyfr 1.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN BLWYDD "ARTHUR MADOG,"[1]
(Mebyn Dr. Jones, Bl. Ffestiniog.)

EGINYN tlws ei gynydd,—heddyw'n flwydd
Ddaw'n ei flaen yn 'splenydd;
Arwydda hyn daw ryw ddydd
Yn deilwng o ardalydd.

Barn gwlad am Arthur Madog—yw y dêl
Fel ei dad yn enwog:
Caed oes faith a thaith o hedd,
A rhinwedd yn goronog.


"FALL" fawr Chwarel y Welsh Slate, Ffestiniog, Chwefror, 1883.

Cyfansoddwyd y llinellau hyn Chwefror 16eg, 1883, diwrnod y daeth y FALL (cwympiad)
fythgofiadwy i lawr yn y chwarel uchod. Ychydig amser cyn hyn cauwyd pump o'r Miners gan y
FALL, fel y tybiwyd eu bod wedi eu claddu yn fyw; ond trwy ymdrech digyftelyb eu cyd-weithwyr
rhyddhawyd yr oll o'u carchar du.

DARN I'W ADRODD.

'R OEDD degau o'r chwarelwyr er's amser maith ol
Yn gweithio mewn peryglon mawr o dan y ddirfawr fall;
'R oedd ofnau yn cyniwair—pob mynwes oedd mewn braw,
Wrth sŵn y disgyniadau mawr a glywid ar bob llaw:
Rwy'n clywed swn craciadau, medd rhyw chwarelwr craff
A welaf ar yr uchel graig yn rhwym o fewn y rhaff,
Ond gweithio wnai y dewrddyn o dan yr uthrawl le,
Hylldremiai angeu arno'n awr, ond eilwaith gwena'r ne'.

Ond diwrnod bythgofiadwy o brudd-der i bob bron
Oedd adeg cloi yn nghôl y graig ryw bump o'r miners llon;
Mae braw yn argraffedig, a dwysder ar bob grudd,

  1. Dr Arthur Madock Jones 1889-1961. Bu'n uwchgapten yn yr RAMC (adran feddygol y fyddin) yn y ddau ryfel byd ac yn feddyg teulu yn Llandudno. [Erthygl coffa North Wales Weekly News, Mehefin 1961]