ELUSEN.
Buddugol yn Eisteddfod Cefnmawr, Nadolig, 1891.
HAEL gordial melus ydyw Elusen,
Wna le annedwydd yn lawen Eden
Hon dyn y rheidus dan ei haur aden,
O, rôdd garuaidd! oeraidd ddaearen
A welir o dan heulwen;—ffy niwloedd,
Edwina ingoedd cadwynau angen.
LLINELLAU
Ar Briodas o Duc York a'r Dywysoges May.[1]
HAWDDAMOR, Briodas!—
Cyflymed y newydd
O ddinas i ddinas,
O fynydd i fynydd.
Mae Llundain yn dawnsio,—
Llawenydd feddiana
Galonau y miloedd
Rhwng creigiau Gwyllt Walia.
Mae'r Wyddfa yn dyrchu
Ei phen uwch y cymyl,
Ac fel pe yn sisial
Yn nghlustiau yr engyl
Ei bod yn balchio;
Ar Garnedd Llywelyn
Mae awel y nefoedd
Yn chwareu ei thelyn.
Pereidd-nôd dedwyddwch
A llonder a seinia,
A bloedd hyd y wybren
A ddyrch Ynys Mona,—
Ei hadsain chwareua
Yn nghreigiau gwlad Arfon
- ↑ Duc York=George Frederick Ernest Albert, (Siôr V) ail fab (ond yr hynaf dal ar dir y byw) Edward Albert, tywysog Cymru.
May=Y dywysoges (brenhines wedyn) Mair o Teck