Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GOLYDDAN YN EI GYSTUDD

Adnod a ysgrifennodd fy mrawd mewn Album oddeutu Chwefror, 1862.

Llaw yr Arglwydd a gyffyrddodd â mi fel
na allwyf ganu a'm deheulaw; ac y gorfu
arnaf roddi fy nhelyn ar yr helyg."

Yn dilyn dywed "Buddug."

GOLYDDAN sy'n llenwi fy meddwl yn llwyr,
Odoriad gwawr Dwyrain hyd fachlud yr hwyr;
Ei wylio ef beunydd sy'n dwyn fy holí fryd,
Anghofiais yr Awen, anghofiais y byd.

ETO

Dy ingol loes, fy anwyl frawd,
Ymedy'n llwyr â thi;
Yfory bydd dy boenus rawd,
Ymhen mewn nefol fri.

Ni gawsom rodio law yn llaw,
Pan oeddit yma'n byw,
Boed i ti estyn heb ddim braw,
Dy law, pan ddof at Dduw.

Y dagrau heddyw red yn lli,
Wrth feddwl am dy boen,
Ond sychir rhai'n pan fyddi di
Yn dechreu'th gân i'r Oen.

Dydd da, fy mrawd, dydd da,
Nid ffarwel rydd dy chwaer,
Can's cwrddyd eto â thi ga
Mewn nef yn deg a chlaer.