Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni welent hwy er maint eu bri
Ddim Duw o dan amrantau'i lygaid;
Pan godai'i fys uwchben y ddeddf,
A'i gwisgo â goleuni trwodd,
Ni welent hwy mo'r ddwyfol reddf
A redai drwy y bys a'u creodd.

Hwy synnent at ei fawredd Ef,
Fe synnaf finnau'i fod mor fychan!
Yr Hwn a daenodd ddae'r a nef,
A'i ddeall, fod mor hynod egwan!
Podd gallodd anherfynol Fod,
Ymwasgu 'rioed i'r fath gyfyngder?
Ymguddio mewn rhyw ddeuddeg oed,
O ryfedd wyrthiol Anfeidrolder!

Pan ddirwyn Duw holl flwyddi'r byd
Fel pelen fawr o gylch ei fysedd;
A'u hyrddio i'w diddymol gryd,
I'r tragwyddoldeb pell di-ddiwedd;
Cawn wybod gan yr Iesu glân
Pam rhoes ef ddeuddeng mlwydd am dano,
Mae'n debyg iawn cawn destyn cân
Na dderfydd byth ddadseinio honno.