Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BRWYDR DIRWEST A BACCHUS.

YMARFOGWN, ferched dirwest,
Wele ni mewn rhyfel fawr ;
Nid oes orffwys cyn cael concwest,
Nid oes rhoddi arfau i lawr :
Yngafaelion medd'dod creulon,
Cymru anwyl sydd yn brudd;
Dirwest dyrr y rhwymau tynion-
Yn ei llaw fe ddaw yn rhydd.

Cadarn yw y ddiod feddwol,
Dyn yn unig sydd yn wan;
Byddin gref y llu dirwestol
Sydd am ddwyn y llesg i'r lan;
Merched glân ardaloedd Cymru
Lusgir yn y llu i'r llaid;
Dirwest wen a'u cwyd i fyny,
Gweithiwn, gweithiwn yn ddibaid.

Ysgafn iawn yw rhwymau dirwest,
Dim ond peidio yfed mwy:
Dyna'n unig ydyw'r orchest,
Peidio, felly ni cheir clwy:
Peidio, ferched, dyna'r rhyfel
Drosodd, heb ddim tywallt gwaed,
Peidio, dyna froydd tawel,
A dynoliaeth ar ei thraed.

Peidio profi, peidio edrych,
Dyna dd'wed y Gair yn groch;
Gwylio rhag yr eilun wrthrych,
Pan yr ymddanghoso'n goch: