Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYDYMDEIMLAD A'R PARCH. PETER

ELLIS, RUABON.

DAETH yn nos ar y briodas,
Er mor hirfaith fu y dydd;
Dirwyn wnaeth y brydles addas,
Bur, i ben; aeth hithau'n rhydd:
Rhydd i hedeg at yr Iesu,
Priod anwyl gwlad yr hedd;
Rhydd i roi ffarwel i'w theulu,
Hwythau'n rhwym wrth byrth y bedd.

Peidiwch dannod iddi hedfan
I awyrgylch gwlad ddiboen;
Peidiwch grwgnach iddi drigfan,
Yn y gwynfyd gyda'r Oen;
Peidiwch cwyno, os y tybiwch
Bydd ei hanthem hi yn hwy,
Pan ewch yno chwi ganfyddwch
Mai rhyw ddechreu byddant mwy.

Dechreu, ac ail ddechreu wedyn,
Bydd yr Haleliwia lân;
Nes y del ynghyd bob nodyn,
O'r gorthrymus fyd i'r gân:
Yna canu ac ail ganu,
Pechod wedi gado'r dôn,
Ni bydd yno ond emynu
Cynghaneddion cariad Ion.

O gobeithio fod rhyw nodau
Yn yr anthem fawr Amen,
Nas gall seraph pur na seintiau
Fyth eu seinio yn y nen