Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Belydryn teg, mor gywir yw ei wedd,
Nis gall un rhagrith drigo ynddo fe,
Elfennau dyrys, hanfod twyll, ni fedd,
Ond gem o burdeb yw o dan y ne.

Mae'i rym yn fwy angerddol na grym tân;
Y garreg oer a dry y tân yn llwfr:
Ond dyma rin ynghylch y deigryn glân,
Wna galon adamant fel llyn o ddwfr !
Mae hinsawdd hwn yn falmaidd ac yn chweg,
Fel chwa Mehefin ar y werddlas ddol,
Ni rewa teimlad byth mewn tywydd teg,
Y gwres a dry yr oerni yn ei ol.

Mae fel amrywiol olygfeydd diball
Yn gweithio allan o'r teimladau cudd,
Does neb ond Hollwybodol byth a all
Ddadlennu y cyfrinion ynddo sydd:
Edrycher arno yn disgleirio'n hardd;
Ar ruddiau pur Emanuel ei hun;
Portread bywiol yw gan Ddwyfol Fardd,
I ddangos calon fawr y Duw i ddyn.

MARGARET

GWYDDOST ystyr tlws dy enw,
Pur yw hynny, onide?
Cadw'n fyw yr ystyr hwnnw,
Rho i burdeb gael ei le;
Pur dy foes, a'th lwybrau cyson,
Pur dy ymarweddiad syw:
Gwyddost yr addewid ffyddlon,—
"Pur o galon "—"gweled Duw."