Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae mewn syched, mae'n newynu,
Eto yn ei blant,
Tithau gefaist arno weini,
Trwy ddiwallu'u chwant.

Nodded nef ymdaeno drosot,
Torred arnat wawr,
Gweddi daer sy'n esgyn erot
At y "Meddyg Mawr;"
Mwy yw Ef na phob afiechyd,
Na gwendidau'r byd,
Gall Efe droi'r oll yn fywyd,
Ac yn "Haf o hyd."

ANN GRIFFITHS.

AETH heibio i deganau'r llawr,
Aeth hwnt i ser y nen,
Uwchlaw i'r cymyl, at y wawr
Cartrefa draw i'r llen:
Cyffyrddodd yn y goleu claer
Sydd ar yr orsedd lân
Nes dwyn y Gair yn sylwedd byw,
Tragwyddol yn ei chân.

Nid oedd ond Gethsemane Ardd,
R'odd iddi Faban Mair;
Ei Nardus a'r Phomgranad teg,
A dyfodd yn y Gair.
Ni feddai anian iddi hi
'Run swyn, na bri o'r bron,
Cydgasglodd holl ogoniant byd
I Rosyn Saron hon.