Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR BRIODAS.

GLAN briodas, beth sydd lanach?
Beth siriolach sydd i'w gael?
Gloew fodrwy, beth sydd loewach?
Dim o dan dywyniad haul.
Beth gadarnach ar y ddaear?
Peidier son am rym y graig;
Canmil cryfach cwlwm cymar,
Deuddyn anwyl—gwr a gwraig.

Cefaist ti y goron, Tegian,
Pan y cefaist Mary lân,
Cadw hi yn hoew ddiddan,
Ceidw hithau'n gu dy gân:
Boed disgleirdeb adlewyrchiad
Bywyd pur ar hyd eich hoes,
Yn goleuo rhyw gerddediad
Dyrus lwybrau dysg a moes.

Boed cymdeithas yn amgenach,
O'r briodas brydferth hon,
Boed rhyw awyr yn ysgafnach,
Boed rhyw leddf" yn troi yn llon."
Bydded nefoedd ar eich aelwyd,
Geidw ymaith ysbryd trist;
Cofiwch, dysgwyd chwi yn ddiwyd,
Lwybrau esmwyth Iesu Grist.