Tudalen:Caniadau Cymru.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LIX.

CWYN CARIAD.

F' anwyl ferch, delw 'm serch, clyw annerch clwy'enaid,
Troist yn ddu'r cariad cu, a chanu 'n ochenaid?
A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n annhirion?
A oedd ymhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union?
Yn wir dy ŵg dagrau ddwg i'r golwg o'r galon,
Oni chaf hedd, af i'm bedd i orwedd yn wirion.

P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl?
Ai sî a siom yr amod drom unasom ryw noswyl?
P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd?
Torrai 'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd:
Yn iach i'th wedd, mi wela 'medd, wan agwedd yn agor;
Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar f' elor?

Pan weli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoewdeg,
Ac uwch y tir ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg,
Mae d' achos di, greulon gri, fu gwelwi'r fau galon,
Ai dyma'r pryd daw gynta'i gyd iaith hyfryd o'th ddwyfron?