Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Cymru.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chymaint eto yw ei swyn fel y gallwn ddweyd gyda bardd diweddarach mai

'Gwin a mêl i'r genau mau
Ei nodau dianwadal.'

Gwrthodwyd, felly, yr enw 'telyneg' am y gallai arwain llawer i dybied mai casgliad o benillion i'w canu gyda'r delyn yn unig oedd hwn. Yr amcan, yn hytrach, ydoedd crynhoi ynghyd yr engreifftiau goreu sydd ar gael o ganiadau byrion ac ysgeifn Cymru,—caniadau tebyg o ran eu ffurf, eu cywair, a'u hysbryd i'r rhai a welir yn y Golden Treasury Seisnig.

Ychwanegir drachefn at bembleth y golygydd gan y llinell derfyn sydd mewn barddoniaeth Gymraeg rhwng y mesurau caethion a'r mesurau rhyddion. Ac ni wna'r gair 'telyneg' rwyddhau'r ffordd chwaith yn y cyfeiriad hwn. Oblegid fe genir cywyddau ac englynion gyda'r tannau mor aml ac mor hwylus a'r penillion pedair a chwe llinell a briodir yn gyffredin ag enw'r delyn; ac y mae llawer cywydd byr ac ambell gyfres o englynion mor drwyadl 'delynegol' eu cywair ag unrhyw ganig mewn mesur rhydd. The chief lyric poet of Wales' y gelwir Dafydd ap Gwilym gan feirniad Seisnig cymwys; ac ar fesur cywydd y mae bron bob cân o eiddo Dafydd. Y mae enaid y 'delyneg,' er engraifft, mewn llinellau fel hyn,

A bronfraith ar ir benfrig,
Cyn y glaw, yn canu'n glau
Ar lasbanc irlwys bynciau.
A'r hedydd aflonydd ei lais,