Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Cymru.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bara a dwr dri Gwener gwyn,—
A hyn a wnawn i'n ufudd,—
Gyda gwisgo crys o rawn,
Pe gwyddwn i cawn Foreuddydd.

CAROL I'W GARIAD.

O wir drymder canu'r wy',
Nid o nwy' na maswedd,
Ond un modd a'r alarch gwyn
Yn canu cyn ei ddiwedd.

Afraid im dy ganmol, bun,
Na'th liw, na'th lun, lle'i delid,
Ond wrth ynfyd, ffôl, neu ddall,
Ni ddichon ddeall glendid.

Ni bu, nid oes, deuliw'r ôd,
Ni ddichon fod yng Nghymru,
Fab a garodd ferch yn fwy
Nag yr wy' i 'n dy garu.

Gwn y gwyddost bart o'm clwy'
A maint yr wy'n dy garu,
Eto'r wyt a mi—Ow, p'am?—
Yn gwneuthur cam er hynny.