Tudalen:Caniadau Cymru.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

FY unig esgus dros gyhoeddi ail argraffiad FY "Ganiadau Cymru" ydyw fod yr argraffiad cyntaf wedi ei werthu allan ers rhai blynyddoedd, ac fod y cyhoeddwyr yn derbyn ceisiadau parhaus am y llyfr. Cynhwysa'r argraffiad hwn rai caniadau ychwanegol, ynghyd ag ychydig gyfnewidiadau a gwelliantau yn y caniadau a gyhoeddwyd yn y cyntaf.

Ysgrifennwyd y nodiadau ar eiriau a geir yn y diwedd gan Mr. Ifor Williams, M.A., Athraw Cynnorthwyol yn y Gymraeg yng Ngholeg Bangor; ac y mae fy niolchgarwch yn fawr iddo am danynt. Dymunaf hefyd gydnabod yn gynnes y cynhorthwy gwerthfawr a gefais ynglyn a chywiro'r prawflenni, a gol- ygu'r nodiadau ar yr awdwyr, gan y Parch. T. Shankland, Arolygydd Llyfrgell Gymreig Coleg y Gogledd.

 W. LEWIS JONES.

COLEG GOGLEDD CYMRU,
BANGOR, Hydref, 1907.