A hir y cedwir mewn co'—oludog
Sylwadau wneid ganddo;
Heriai undyn i'w wrando,
A'i ddwy glust dan farwaidd glo.
Athraw oedd ef dieithr ei ddawn,—oedd enwog
Dduwinydd pur gyflawn;
Traethu gwir toreithiog iawn
Dan eneiniad wnai 'n uniawn.
Hynod ei ddull ydoedd o,—a gwreiddiol
Gwir addysg geid ganddo;
Caem werth ein trafferth bob tro,
Heb wiriondeb i'w wrando.
Agor ini 'r gwirionedd,—a'i adrodd
Wnai 'n fedrus mewn symledd;
Fe roi i lu ddifyr wledd,
Gwersi o olud, gwir sylwedd.
Dwthwn ei gylchymdeithio—oedd hirfaith
Ddarfu, mae'n gorffwyso;
Hiraeth gyfyd wrth gofio
I ddu fedd ei guddio fo.
}} Ar farwolaeth y ddiweddar MRS. A. HUGHES, HEOL Y LLYN, CAERNARFON, Yr hon oedd wraig rinweddol a duwiol iawn, ac aelod ffyddlawn dros lawer o flyneddoedd yn yr Eglwys Annibynol yn Mhendref. Bu farw yn nhy ei merch a'i mab yn nghyfraith , Mr. a Mrs. D. Davies, Catherine street, Liverpool.
E GEIR yn y gwirionedd-air da iawn
- I ryw dorf o wragedd—
- Rhai enwog am eu rhinwedd,
- A'u gwir barch ni lygra bedd .