Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi sylwais ar ei llygad
Yn gloywi yn y nef,
Fel petai ddeigryn disglair
Yn cronni ynddo ef.

Mi glywaf ddeigr yn llenwi
Fy llygad innau'n awr;
'R wyf innau'n unig unig;
Fy haul a aeth i lawr.

CWYN Y GWYNT

Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno,
Dagrau ddaw ynghynt.
Wrth fy ffenestr yn gwynfannus
Yr ochneidia'r gwynt.

Codi'i lais yn awr, ac wylo,
Beichio wylo mae;
Ar y gwydr yr hyrddia'i ddagrau
Yn ei wylltaf wae.

Pam y deui, wynt, i wylo
At fy ffenestr i?
Dywed im, a gollaist tithau
Un a'th garai di?