Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dwy ffynnon welir, glir a glan,
Yn loyw 'mysg y lili man;
O'u goleu, pan eu gwelais,
Y cefais ysbryd cân.

A goelit hyn pe gwelit ti
Y geinaf ardd sy gennyf fi?
Dy ddrych a rydd it ateb
Dy wyneb ydyw hi.

RHIEINGERDD

Main firain riain gain Gymraeg.—Casnodyn.

Dau lygad disglair fel dwy em
Sydd i'm hanwylyd i,
Ond na bu em belydrai 'rioed
Mor fwyn a'i llygad hi.

Am wawr ei gwddf dywedyd wnawn
Mai'r cann claerwynnaf yw,
Ond bod rhyw lewych gwell na gwyn,
Anwylach ynei liw.

Mae holl dyneraf liwiau'r rhos
Yn hofran ar ei grudd;
Mae'i gwefus fel pe cawsai 'i lliw
O waed y grawnwin rhudd.