Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
LILI LON

Gwelais lwyni gwynion drain,
Pob blodeuyn gwyn mor gain;
Yn fy ngardd mae gennyf lili
Lanach, lanach na'r holl lwyni;
Lili lon ydyw hon,
Lili lon ydyw hon;
O, ni welais yn fy mywyd
Un mor hyfyd â hon.

Gwelais wledydd hardd eu drych,
A goludog wledydd gwych;
Tecaf, mwynaf im o unman
Ydyw f 'anwyl wlad fy hunan;
Cymru lon ydyw hon,
Cymru lon ydyw hon;
O, ni welais yn fy mywyd
Fro mor hyfryd â hon.

Dysgais lawer enwog iaith
Wedi llafur, myfyr maith; .
Godidocach iaith na'r cyfan
Yw fy heniaith i fy hunan;
Heniaith lon ydyw hon,
Heniaith lon ydyw hon;
O, ni ddysgais yn fy mywyd
Iaith mor hyfryd â hon.