Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
YR AFONIG

Mae 'nghalon, lân afonig,
Yn dilyn dawns dy li;
A dedwydd iawn wyf innau—
Dy gân a'm llonnodd i.

A dedwydd iawn wyf innau
Yn canu gyda thi;
Mae llon feddyliau ynof
Yn dilyn dawns dy li.

Mae llon feddyliau ynof—
Dy gân a'm llonnodd i;
Mae 'nghalon, lân afonig,
Yn canu gyda thi.


FY MREUDDWYD

Breuddwydiais— paid a digio dro—
Fy mod yn caru dwy;
Ni welwn ragor yn fy myw,
Na dewis rhyngthynt hwy.

Ni charwn un yn llai na'r llall,
Ni charwn un yn fwy;
Ac mewn rhyw benbleth faith y bum
Y nos o'u hachos hwy.