Prawfddarllenwyd y dudalen hon
- LLYTHYRAU
- AT O.M.E.
- Mehefìn 1886.
- AT O.M.E.
Mi wela'r Wyddfa draw yn las,
A glas yw'r awyr hithau,
Ac ar y chwith mae Menai'n las,
Gwyrddlasach tua'r glannau,
Lle teifl y coed eu glesni glwys
Ar lesni dwys y tonnau.
Gyr imi hanes, gynnes gân,
"Morynion glân Meirionydd,
Fel yr addewaist imi'r pryd
Y'u gweiit gyd a'i gilydd;
Mi ganaf innau ganig lon
Am lannau'r afon lonydd.
Ac hefyd am forynion Môn
Y clywaist " sôn am danynt,"