Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hiraethu mae am dywydd braf,
Am haf a mis Mehefin,
A thyner chwa i gusanu'i min,
A'i hafaidd hin gysefin;
Er hyn, os gall, hi byncia dro
Ryw eco yn y ddrycin.

Pan geisiodd ddwaethaf eilio cerdd,
'R oedd daear werdd o'i hamgylch,
A Menai'n gwenu'n nhywyn haul,
Ac araul las awyrgylch;
Yr heulog haf amryliw cain
Ddisgleiriai'n wiwgain ogylch.

Nid oes yn awr ond daear wen,
A nen a Menai dduaf;
Fy Menai arian, lân, liw tes,
A'i chynnes wên Orffennaf—
Yn awr hi dremia gyda gwg,
Haearnaidd gilwg arnaf.

Er hyn i gyd, mi godais
Gyda'r wawr;
Trwy eira yr anturiais,
Gyda'r wawr;
A thrwy'r gaeafwynt oerddig,
Ac at y llyn cloëdig,
A gwelais deg enethig
Yn llwybro yno'n unig, gyda'r wawr.