Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Plotos pa elw yw iti
Dan d'enw dy hun d'enwi di ?
Deiliaid sydd yn adolwyn.
Dan bob rhith dy fendith fwyn—
Dy annerch dan enw Merchyr
Am fasnach elwach i wŷr,
Dan rith Ceres, dduwies dda,
A phryd denol Fortuna.
A geir o enwau gorwych
O gwrr y pantheon gwych,
Yr ucha'u gradd onaddunt,
Enwau teg arnat ti ŷnt.
Beth am dy uchel Elyn,
A'i hap Ef yn wyneb hyn?
Un genedl, yn ei gyni,
Feddai, ac—anufudd hi;
Anhydyn ac anwadal,
Addoli bu ddelwau Baal;
Troi'i hwyneb at y rheini,
A'i adaw Ef, ei Duw hi.
Yn gybyddion ddynionach.
Ymroi y bu mawr a bach;
Ei phlant gwâr yn gynnar gynt,
Dy ddelwau di addolynt.
Yn dyner Ef a'i denai,
Ymliw'n aml â hi a wnâi;
Taerion fu'i genhadon Ef
Arni droi'n hydrin adref.