GORESGYNIAD GWLAD CANAAN GAN JOSUA
AR ddyffryn Moab gynt y safai gwr
Ddewisodd Duw i'w blant yn gadarn dwr
Am ddeugain mlynedd trwy'r anialwch prudd
Y teithiodd gyda hwy bob nos a dydd.
Arweinydd oedd yn llawn o ysbryd byw—
Arweinydd anfonedig gan ei Dduw :
'Roedd dewrder yn gerfiedig ar ei rudd,
A'i fynwes gref oedd lawn o ddwyfol ffydd,—
Yn ngoleu hwn rhag—welai wlad oedd well,
Fel seren ddisglaer yn y gorwel pell;
Rhag—welai hefyd trwy y niwloedd du
Gymylau anhawsderau draw yn llu;
Ond trwy yr oll canfyddai wyneb Duw,
A chlywodd lais o'r nef yn sibrwd, 'Clyw,
'Josua, ymwrola, cofia di
Fod Arglwydd Dduw y Lluoedd gyda thi.'
Gerllaw yr hen Iorddonen ddofn
Gwersyllai byddin gref,
A'i chedyrn syllai yn ddi-ofn
I fyny tua'r nef;
Dychmygent weled yno un
Fu'n ffyddlon ar ei hynt
Yn crwydro trwy anialwch blin
Yn llywydd arnynt gynt.
Am Moses, wylo'n chwerw wnaeth,
Y rhai'n fel gweddw brudd,
Yn wylo am y plentyn aeth
Fry, fry i wlad y dydd;
Ond trwy eu dagrau gwelant draw
Eu llywydd hoff a'u llyw
Yn seinio cân heb ofn na braw
Wrth orseddfainc eu Duw.
Gadawodd Moses un o'i ol―
Un mwy nag ef ei hun—