DARLUN FY MAM AR Y MUR
AR noswaith ystormus a thywell,
Mewn 'stafell heb neb ond fy hun,
Eisteddwn i syllu ar ddarlun,
A rhywun yn fyw yn y llun;
Adgofion fy mebyd gyfodent
Adgofion mor felus a phur
Wrth weled y darlun crogedig,
Sef darlun fy mam ar y mur.
'Rwy'n cofio pan oeddwn yn blentyn
Yn chwareu ar lethrau y fron,
Fy enaid yn fyw o lawenydd,
Fy nghalon yn ddedwydd a llon
Ond heddyw mae'r byd a'i ofalon
Yn llanw fy nghalon a chur;
Ond cariad a'i lleinw pan syllaf
Ar ddarlun fy mam ar y mur.
O! ryfedd gelfyddyd anfarwol,
Trech ydwyt nag amser ei hun,
'Rwyt i mi yn dangos mor eglur,—
Y marw yn fyw yn ei lun;
Mae'r darlun fel mam yn naturiol,
A'i wedd yn ysbrydol a phur ;
'Does unpeth i'm golwg mor anwyl
A darlun fy mam ar y mur.
Y LLYGAID.
TREIDDIA gwen dalent delaid,—yn dân byw,
Dawn heb iaith yw'r llygaid;
I'w goleu'n hardd, gwawl a naid
Ar ei union o'r enaid.