MERCH Y MORWR.
Dernyn Adroddiadol,
MAE'N nos,
A drws y bwthyn wedi 'i gau,
Y mellt yn gwibio ac yn gwau
Oddeutu'r bwthyn unig;
Y gwynt yn chwythu'n groch uwchben,
Taranau certh yn rhwygo'r nen,
Cymylau duon guddia'r llen
O olwg byd anniddig.
Y môr yn lluchio'i ferwawg li
Yn drochion gwyn—a'i erchyll gri
'N arswydo'r eneth unig
Eisteddai yn y bwthyn mad
Gan ddisgwyl clywed llais ei thad,
Yr hwn aeth allan yn ei fâd
Ar frig y don ferwedig.
Bedd-feini ydyw tonau'r môr,
I fyrdd o forwyr mae ei stor
O feddau yn ddi-ri';
Y creigiau crog sydd yma'n fud—
Maent yma er pan seiliwyd byd
Yn gwylio'r morwr yn ei gryd
Uwch dyfrllyd fedd y weilgi.
"Y bâd,"
Y bâd sy'n dod ar frig yr aig
Yn nes, yn nes at gwr y graig,
Heb hwyl, heb law i'w lywio;
Mae'r hwn arferai droi y llyw
Yn mhell, yn mhell o dir y byw,
Yn llywio'i delyn gyda Duw,
Yr hwn a'i rhoddes iddo.
A'i dwylaw'n mhleth ar aelwyd oer,
Heb oleu tân, heb oleu lloer,
Penliniai merch y morwr: