Hen Eglwys Llanycil, mae'r ywen yr awrhon
Yn lledu ei breichiau uwch beddau di-ri',
A'i gwraidd sy'n blethedig am gyrph yr enwogion
Fu gynt yn addoli eu Duw ynot ti :
'Run ffunud a'r ywen, yn lledu dy freichiau,
Anfarwol 'rwyt tithau dros wyneb y tir,
A'th ffydd sy'n blethedig am lu o eneidiau,
Sydd heddyw mor ffyddlon i arddel y gwir.
Hen Eglwys Llanycil, mor chwith ydyw gweled,
Gelynion yn ceisio'th ddirmygu yn awr ;
Bu eraill yn ceisio, ond cefaist dy arbed
Gan allu mwy nerthol na gallu y llawr;
Bydd cof am dy enw, hen Eglwys fendigaid,
Pan gyfyd y meirwon o'n beddau i gyd,
Pryd hyny fe welir dy ffyddlon hoff ddeiliaid
Yn myned i'w cartref tragwyddol yn nghyd.
Y CRWYDRYN
(Dernyn Adroddiadol.)
ER fin y ffordd un noswaith oer
Eisteddai'r crwydryn gwelw,
Tra ar ei ruddiau llwyd, y lloer
Ddangosai lûn y marw;
'Roedd rhywbeth yn ei olwg prudd
Yn hawlio cydymdeimlad,
A dagrau gaed ar ruchiog rudd
Y crwydryn tlawd amddifad.
Oddeutu'r fan 'roedd anian dlos
Yn huno mewn tawelwch,
Y sêr uwchben-cain emau'r nos,
Ddisgleirient yn eu harddwch;
Cydrhwng y sêr, y lleuad wen
Fel rhyw angylaidd genad,
A wylia'n fûd, fry, fry uwchben,
Y crwydryn tlawd amddifad.