Y MEDDWYN.
Dernyn Adroddiadol
FE gwympodd, fe gwympodd yn aberth i'r ddiod,
Trwy gwympo anghofiodd ei deulu a'i briod,
Melldigawl gadwynau herfeiddiawl y fall
Ymblethant am dano, ac yntau yn ddall.
Nid ydyw yn edrych tros ddibyn anobaith,
Nid ydyw yn edrych ar rym ei anfadwaith,
Mae'n ddall, yn aberthu, 'n aberthu ei blant
I foddio cynddaredd anrhaethol ei chwant;
Ofnadwy olygfa yr euog crynedig,
Yn suddo dan bwysau ei chwant felldigedig.
I fyd y trueni mae'n hyrddio ei hun,
Heb ddrych yn y cread all ddangos ei lun,
O ryfedd demtasiwn, mae'th nerth yn angherddol,
Yn domen aflendid yn nwylaw y diafol;
A llu o ellyllon yn arwain heb ball
Y meddwyn truenus i grombil y fall:
Gadawodd ei gartref, ffarweliodd a'i fwthyn,
Ar fynwes ei briod gadawodd ei blentyn,
Heb un peth i guddio ei noethni ond carpiau,
A newyn yn syllu yn hyf i'w gwynebau,
Cychwynai y fam at riniog y ddor
(Yn ameu bodolaeth trugaredd yr Ior:)
Ond ust!! mae'n gweddio, mae'n erfyn ar Dduw
Anghofio ei chamwedd er dued ei liw.
Udiadau y gwynt oddi allan,
Taranau yn rhuo gerllaw,
A'r fam yn cofleidio ei baban
I'w mynwes mewn dychryn a braw;
Y mellt oedd yn fflachio bob enyd—
Ymddengys y byd fel ar ben:
Yn ngoleu y mellt mor ofnadwy
Oedd duon gymylau y nen.
Ah! noswaith i'w chofio oedd hono
Gan deulu y meddwyn bob un,
'Roedd natur o'u deutu'n ymwylltio,
Gan ddangos ei nerthoedd ei hun;