Tudalen:Caniadau ac ati.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y glân dyn y sydd a'i u'in, wr dyddan bob dydd,
Yn haeddu'r cymeriad trwy rodiad tra rhydd,
A'r meddwdod, wyr mwyn rwy'n syniad yw'r swyn
Sy'n boddi'r talentau, sain, oer a'r synwyrau,
Dro gwan mewn drwg wyliau, degnnau'n digwyn.

Mi wela, 'n bedwarydd, mai sobrwydd heb sen,
At gyda syberwyd mewn bywyd sydd ben,
A gwell erbyn marw, miwy croew mae'n cred,
Rhwn hauo gyfiawnder addfwynder a fed.
Y wobr y sy wr tawel mewn ty,
Gamp hynod gwmpeini, mae'n lloni pob llu,
Canlymad dilen dawn hynod dan nen,
Pe cawn ni fyw'n ddedwydd, wir eirglod, i'r Arglwydd;
Wych arwydd am sobrwydd er mawrlwydd, Amen.

Y BWTHYN YN NGHANOL Y WLAD.

Y bwthyn lle treuliais fy mebyd,
Fan hyny mi hoffwn gael byw.
I sugno yrawel iach hyfryd
Mewn tawel gymdeithas â Duw