Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

.
Mae ofn ar f' enaid gwan,
Mai boddi fydd fy rhan,
Cyn cyrraedd tawel làn,
Bro y goleuni.
3 Ond pan y gwelwyf draw
Ar fynydd Sion,
Yn iach, heb boen na braw,
Fy hen gyfeillion;
Pa'm 'r ofna 'm henaid mwy?
Y Duw a'u daliodd hwy,
A'm cynnal innau trwy
Ei dyfroedd dyfnion.
19.
M. 8. 7. 4.
FFRWYTH MARWOLAETH CRIST.
1 AR y groes derchafwyd Iesu,
Fel y sarff ar drostan hir;
Ac fe dyn aneirif luoedd
Ato 'i hun o for a thir:
Byth ni chollir
Neb a gredo ynddo ef.
2 Marw wnaeth y gronyn gwenith,
A thoreithiog fydd ei ffrwyth;
Rhana 'r ysbail gyda 'r cedyrn,
I'w elynion tâl y pwyth:
Ni wêl Satan
Un o ddefaid Crist yn ol.
3 Fe gaiff Iesu fyrdd o ddeiliaid
O bob cenedl is y nef;
At ei draed yn ufudd deuant;
Had a'i gwasanaethant ef:
Bydd eu nifer
Fel y gwlith o groth y wawr.
Google