Tudalen:Canmlwyddiant marwolaeth y Parch. John Wesley, M.A., Mawrth 3ydd, 1891, gan J. R., Pontypridd (IA wg35-2-3431).pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CANMLWYDDIANT
Marwolaeth y Parch. John Wesley, M.A.
MAWRTH 3ydd, 1891.

'Rym heddyw 'n dathlu canmlwydd
Marwolaeth WESLEY gwiw;
Gwr mawr ei ddysg a'i ddoniau.
Gyfodwyd gan ei Dduw;
Mynegu 'roedd e'n ffyddlon
Holl gynghor Duw o hyd;
Sylfaenu wnaeth yr eglwys
Iachusaf yn y byd.

Ei wrthwynebu gafodd,
Gan lawer yn y byd;
Ond trwy yr Arglwydd Iesu,
Yn llwyddo 'roedd o hyd.
Fe gafodd yr hyfrydwch,
Cyn cyrhaedd fry i'r nef,
O weled ei ganlynwyr
Yn fyddin fawr a chref.

Mae miloedd, oes, ar filoedd
O'i wir ganlynwyr ef,
Oes, eisioes wedi cyrhaedd
Yn ddiogel iawn i'r nef.
Ac ar eu taith, filiynau
A welir fel y wawr;
Oll yn eu gynau gwynion,
Yn mhlith y dyrfa fawr.

O! boed i ninau beunydd
Ei efelychu ef,
Mewn buchedd ac mewn llafur,
Mewn ffydd a chariad gref;
Gweddio ac ymbilio,
Y byddom bawb o'r bron,
Am lwyddiant cyffredinol,
O fewn y flwyddyn hon.

Crist'nogaeth bur o ddifri'
Yw hoff Wesleyaeth bêr;
Yn cynyg iachawdwriaeth
I bawb o dan y ser;
Ymledu 'mlaen y byddo,
I bobman îs y rhod;
I lwyr oleuo'r hollfyd,
Y canmlwydd eto i dd'od.

Pontypridd.—J. R.

ADAM EVANS, ARGRAFFYDD, MACHYNLETH