Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo ei hun yn profi cywirdeb y Man-Gofion, neu hanesion traddodiadol o dan benau eraill yn Ysgrifau Iolo a gyfeiriant at y Gwyddelod, nac ychwaith yn dangos pa un ai fel goresgynwyr ai fel cyn-breswylwyr y buont. Eto, gan y ceir yn y Man-Gofion y fath enwau personol a Dar, neu Dar ap Daronwy, Daronwy, Gwydion, Brynach, Meirion, a Machno, ynghyd âg enw lleol o'r fath a Dinas Ffaraon, mewn cysylltiad a phreswyliad y Gwyddelod a'r Llychlyniaid yma, a bod y fath enwau ar leoedd yn y Dalaeth â Chantref Meirionydd,. ar yr hen Gantref sydd rhwng afon Maw, neu afon Fawddach, a'r afon Ddyfi, Moel Dar, yn nghymydogaeth Abergynolwyn; Pen Machno, yn Sir Gacmarfon; Brynach, a Daronwy, gerllaw.Llanfachraith, yn Mon; Gwydion gerllaw Llanerchymedd; a Dinas Ffaraon gerllaw Moelfro, yn yr unrhyw ynys, y mae hyn yn cyd-daraw yn rymus ymhlaid eu cywirdeb. Heblaw a nodwyd ceir hefyd yn awr yn mhlwyf Tywyn, Meirionydd, gymaint a thri o olion neu weddillion yn dwyn bob un ar wahan yr enw Eglwys y Gwyddelod, a hen gorlan defaid yn yr un plwyf yn cael ei hadnabod fel yr Eglwys Wyddelig,. yr hyn sydd yn awgrymu yn gryf i'r Gwyddelod fod yma ar ol i Gristionogaeth gymeryd cryn afael yn y rhan yma o'r wlad. A chan y dywed y Man-Gofion mai Brynach Wyddel, sef yr un ag Eurnach Hen, a gyfododd eglwysydd gyntaf yn Ngwynedd, y mae y pethau hyn ynghyd yn gyfryw ategion ymhlaid cywirdeb eu honiad o barth y buont yma fel ymosodwyr, bydded eu hawl wreiddiol y peth y bo, fel ag y mae yn rhy anhawdd eu gwrthdroi trwy unrhyw ddyfaliadau gwrthwynebol.

Dywedir o dan y penawd "Don Brenin Llychlyn," i Don Brenin Llychlyn a Dulyn, yn y flwyddyn 267 o'r cyfrif presenol, ddwyn y Gwyddelod i Wynedd. Ac wedi "gwladychu o'r Gwyddelod a'r Llychlyniaid yng Ngwynedd" 129 o flynyddoedd, ddyfod o feibion Cynedda yno o'r Gogledd, a threchu y "Gwyddyl a'u cilyddion." Ac ddarfod i Caswallon Law Hir a'i gledd ei hun ladd "Syrigi Wyddel ab Mwrchan, ap Eurnach hen ap Eilo ap Rhechgyr ap Cathbalug, ap Cathal, ap Machno, ap Einion, ap Celert, ap Math, ap Mathonwy ap Trathol ap Gwydion ap Don Brenin Mon ag Arfon a'r Cantref a Dulyn a llychlyn, a ddaeth i Ynys Fon ganmlynedd a nawmlynedd ar hugain cyn dyfod Crist ynghnawd." A mynegir yn mhellach, "Eurnach Hên a fu yn ymladd Gledd yng Nghledd ag Owain Vinddu ap Macsen Wledig yn Ninas Ffaraon, ag efe a laddodd Owain, Owain a laddodd ynteu."

Diameu fod yr amseriad o 129 o flynyddoedd cyn geni ein Ceidwad. hyd yn nod yn foreuach na'r dull o gyfrif y dylai fod ynddo,—y presenol. Ac ymddengys fod yr amseriad a roddir o ddyfodiad Don