Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/255

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac nid oeddid wedi penodi neb er's rhai blynyddoedd i weithredu gyda'r periglor a'r gwarchodwyr eglwysig, a chan yr athraw yr oedd holl reolaeth yr eiddo.

Y pryd hwn yr oedd y tyddyn a elwir Penrhyn, safledig yn mhlwyf Llanaber, ynghyd â'i berthynolion, yn naliad un Owen Jones, ac wedi ei osod iddo gan y diweddar athraw dan gymeriad o flwyddyn i flwyddyn am lawn 14p. o ardreth.

Mynegwyd i'r Dirprwywyr ddarfod, oddeutu 50 mlynedd yn flaenorol pan yn ystod dyspeidiad a fu heb yr un athraw, i'r ardrethoedd gynyddu i 80p., y rhai a osodwyd ar log yn ol 5p. y cant ar dollau y Eordd fawr a arwain o Ddolgellau i Ddinas Mawddwy.

RHODD ELIS LEWIS.

Gadawodd y Parch. Elis Lewis, Ebrwyad Rhuddlan, drwy ei Ewyllys a ddyddiwyd yr 21ain o Awst, y flwyddyn 1727, ei dyddyn, a'i berthynolion, a saif yn Nghilgwyn, yn mhlwyf Llandrillo yn Rhos, yn Swydd Ddinbych, i ddeon a glwysgor Bangor, yn Swydd Gaernarfon, mewn ymddiried ar fod i'r ardrethoedd blynyddol a'r enillion oddiwrthynt fyned i gynorthwyo i gynal Ysgol Ramadegol Rad yn nhref Dolgellau, er rhydd wasanaeth, addysgiaeth, a manteision plant plwyf Dolgellau yn unig, ac i fod mewn cysylltiad a chymyaeg y Dr. John Elis. A phenododd beriglor plwyf Dolgellau ar y pryd, ynghyd â'i olynwyr, i fod yr unig etholydd a penodwr athraw i'r ysgol hon, ac i'w roi yn y swydd a'i droi allan yn ol fel y barnai yn oreu. Ond os byddai i fwyafrif o'r plwyfolion mewn cwrdd plwyfol dybio yn gydwybodol a datgan ddarfod i'r periglor osod ynddi athraw anghymwys neu droi allan un cymwys, gosododd hawl yn nwylaw y cyfryw fwyafrif i alw am farn y dywededig ddeon a glwysgor Bangor, ac mai yr hyn a benderfynid ganddo yn yr achos hwnw i fod yn safadwy ac yn derfynol mewn perthynas â'r farn-alwad hono, neu ag unrhyw un arall ar norhyw amser a allai gymeryd lle yn mherthynas i hyny neu amgylchiad o'r fath. A'i ewyllys oedd ar i bwy bynag a ddewisid yn athraw i'r ysgol hon ar unrhyw adeg, fod o leiaf wedi graddio yn Wyryf yn y Celfyddydau, yn Rhydychain neu Gaergrawnt, ac na fyddai i neb un yn gwasanaethu unrhyw fugeiliaeth eneidiau, onj roddai i fyny y cyfryw fugeiliaeth, yn addasedig i'w ddewis i fod yn