Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dengys yr un bwrdd hefyd ddarfod i John Dafydd, Fronserth, yn mhlwyf Dolgellau, roddi yn ystod ei fywyd 24p., ac hefyd iddo trwy ei Ewyllys dyddiedig rywbryd yn y flwyddyn 1798 adael llog blynyddol 30p. i'w ranu yn fara yn rheolaidd bob Sabbath ymysg tlodion yr unrhyw blwyf.

Mynega Adroddiadau y Dirprwywyr i'r Elusenau hyn, y rhai a gyrhaeddent i 84p., gael eu helwsoddi yn ol 5p. y cant gan y periglor a'r gwarchodwyr eglwysig, ynghyd â gwarcheidwaid plwyf Dolgellau, ar dollau y ffordd fawr a red o Ddolgellau i Ddinas Mawddwy, fel yr oedd yn ymddangos oddiwrth Ysgrifrwym y tollborth, dyddiedig y 12fed o Dachwedd, 1827. Mynega hefyd y derbynid eu llog, pa un oedd 4p. 4s. gan y periglor, oddiwrth Drysorydd yr Ymddiriedolwyr, ac eu gwerid ganddo yn mhryniad bara, yr hwn a ddosberthid yn dorthau ceiniog, bob Sabbath ar ol y gwasanaeth crefyddol, ymysg tlodion y plwyf yn gyffredinol, yn unol â rhestr wedi ei gwneyd i fyny gan y cwrdd plwyfol.

Dengys bwrdd yr elusenau ddarfod i William John Evan. Dolgledr, trwy ei Ewyllys, yn y flwyddyn 1651, adael etifeddiaeth a elwid Tyddyn Du yn Nglan y Wern, yn Maenol Tywyn, yn y ddywededig Swydd Feirionydd, ar ei ol yn y drefn ddilynol, sef fod cyfran o'i ardrethion a'r enillion oddiwrtho i'w rhanu bob Sabbath, yn 12 torth geiniog o fara, i dlodion Dolgellau; a'r gweddill o honynt i'w rhoddi iddynt yn ol barn y gweinidog a'r gwarchodwyr eglwysig.

Yn ol Adroddiad y Dirprwywyr, cynwysai y fan amacthdy, a thai allan, ynghyd â 34 o erwau, a dwy wialen o dir âr a phorfa. Ac yn adeg eu hymweliad yr oedd wedi ei osod i Rowland Edwards, fel tirddeiliad o flwyddyn i flwyddyn, am 21p. llawn o ardreth, yr hyn, yn ol a nodir, oedd ei lawn werth. Yr oedd wedi ei osod iddo gan y periglor blaenorol.

Yn amser ymweliad yr unrhyw Ddirprwywyr rhenid 12 torth geiniog bob Sabbath ymysg tlodion y plwyf yn gyffredinol; a'r gweddill, pa un oedd 18p. 8s., a renid yn arian a dillad, gan y periglor a'r gwarcheidwaid eglwysig, yn ol fel y byddai achos yn gofyn, ymysg gwrthddrychau mwyaf teilwng o elusen o fewn y plwyf.