Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mi fydd wedi gorffen y job yn union deg, bellach, a be fydd hanes yr hen Gapelulo wedyn? Mi fydd wedi adnewyddu ei nerth; fe heda fel eryr; rheda, ac ni flina; rhodia, ac ni ddiffygia. Mi fydda i, 'mhen tipyn bach, yn ddigon sionc i redeg râs efo'r angel hwnnw, prun bynnag ydi o, 'nillodd y preis ar gae mawr tragwyddoldeb ei hun. Yn lle bydd dy rimatis di wedyn ?

"A phob gwahanglwyf ymaith;
Glân fuddugoliaeth mwy;
'Rwyn canu wrth gofio'r bore
Na welir arna'i glwy'."

'Tasa nhw'n arfer betio yn y nefoedd, mi roisa unrhyw archangel thousand to one i facio traed Capelulo yn erbyn y rhedwr gora sydd 'no."

J. J.-Ydi hi ddim yn dywyll arnoch chi, Tomos Williams?

T. W.-Paid a lolian. Choelia i fawr. Yn 'dydi Haul y Cyfiawnder yn twnnu drwy'r ffenast blwm yna bob munud. Mi glywist son am oleuni yn yr hwyr. Dyna fo, wyt ti'n gweld. Fachludodd hwn yrioed. Y command gafodd o er y dechreuad, cyn bod y byd, oedd, "O. Haul, aros!" Fedar yr Hollalluog ei hun ddim dyfeisio yr un stingwishiar i roi hwn allan. A dyma fi, hen sowldiwr—milwr da i Iesu Grist, gybeithio yn martsio i ogoniant dan i belydra fo.

J. J.-Yda chi'n teimlo'n unig. Tomos?

T. W.--Wel, mi 'rwyt ti'n gofyn cwestiyna rhyfedd. Yn 'tydi'r ty yma'n llawn o'r Royal Family ers dyrnodia. Mi ddaru'r Brenin gommandio Gabriel dro'n ol. Deudodd wrtho fo ei