Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelais westy ar fy nghyfer, a medrais ei gyrraedd ar draws y ffordd cyn gwlychu at fy nghroen.

Daeth gwraig dawel, a sŵn penderfyniad yn ei llais, i'm croesawu. Yr oedd golwg gysurus ar bob peth yn y tŷ, yr oedd tân braf yn cynnau yn y parlwr cyn pen y chwarter awr, ac yr oedd pryd danteithiol o fwyd wedi ei arlwyo.

Yr oedd yno lyfrau hefyd, dyna'r gwahaniaeth rhwng gwesty Cymreig a gwestai eraill. Cefais ymgom a gŵr y ty;—y mae hyn yn rhan o fywyd fforddolyn, - a dywedodd bopeth wrthyf am grefydd a gwleidyddiaeth Llanymddyfri. Ond, fel gwestywr call, ni soniodd air am ei grefydd na'i gredo wleidyddol ei hun; ac yr wyf yn meddwl iddo fethu cael gweledigaeth eglur ar fy amryw dybiau innau. Gwr tawel oedd, yn siarad Cymraeg da.

Cyn huno, yn sŵn y glaw, bûm yn ceisio dyfeisio fath dref a welwn yfory, a fath dy oedd tŷ'r Ficer enwog. Yr oeddwn wedi gweld y lle o bell. Pan oedd fy nhrên yn croesi'r nentydd hyd ochr y mynydd, yr oeddwn wedi gweld dyffryn swynol i lawr oddi tanom, a gwastadeddau coediog niwliog draw. Ond cyn dychmygu darlun eglur yr oeddwn yng ngwlad gwsg. A chyn hir daeth yn ystorm yn fy mreuddwydion, a thybiais weled melltith y Ficer wedi dod ar Lanymddyfri, a'r dwfr yn ei chludo hi a