Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CARTREFI CYMRU.

________


DOLWAR FECHAN.

Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentref, - yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb cenedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddiw y mae'n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minnau deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr India. Trwy'r drws agored gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy'n hepian wrth bentan y gegin, a thrwy'r tair ffenestr gwelaf y glaw yn ymdywallt i lawr trwy'r coedydd tewfrig deiliog, trwy'r onnen a'r fasarnen, a hyd gadwyni aur banadlen Ffrainc. Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni wiw cychwyn trwy law taranau mor drwm,- er hyfryted ydyw ar ôl