a gofynnais a oedd Llanymddyfri'n adfeilio Sicrhaodd fi nad oedd, ond ei bod yn sefyll, - yn cynyddu dim ac yn adfeilio dim.
Cefais dy'r Ficer ymron ym mhen uchaf y dref. Pasiais ef heb ei weled, a chyrhaeddais y bont, lle y dangoswyd mynwent ar fryn uwch ben i mi, — Llanfair ar y bryn, man bedd Williams Pant y Celyn. Troais yn ôl, ac ar y llaw chwith gwelwn dy oedrannus, ac ychydig o ôl gofal arno. Meddyliwn wrth ei weled am hen fonheddwr wedi torri, ac yn goroesi ei gyfoeth mewn cot ddu lom a het dolciog a throwsus du seimlyd rhy fyr i guddio ei esgidiau drylliog. Daeth hen wraig, debyg iawn i'r tŷ, i'r drws i gynnig dangos y lle i mi, gan ostwng yn ei garrau wrth gynnig. Y mae ambell ddernyn o bren cerfiedig a phlastr yn dangos mor fawr ydyw'r cyfnewidiad ddaeth dros y tŷ hwn. Unwaith bu yn orwych, yn awr y mae ei ystafelloedd cyfanheddol yn gartrefi llwm i dlodion Llanymddyfri.
Daeth rhyw brudd-der drosof wrth adael yr ystafelloedd tywyllon gwag lle y goleuwyd "Cannwyll y Cymry." Meddyliais am y noson y safodd ceffyl heb ei farchog wrth ddrws y Ficer, tra yr oedd corff llofruddiedig ei unig fab yn y Tywi. Meddyliais am lawer bore y bu'r Ficer yn cychwyn allan i rybuddio mewn amseroedd enbyd, ac i rybuddio'n ofer, —