Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn rhy hoff o sôn am drigolion y tywyllwch wrth eu henwau, a mynych gyfeiriad a wnâi at ei enaid byw. Ceffylau, cŵn, a da pluog oedd hoff destun ei ymddiddanion; ond am gyfarfodydd pregethu, neu ysgolion y fro, neu ei cholegau, gwyddai llai na dim. Yr oedd ganddo ddaliadau gwleidyddol, ac nid oedd arno gywilydd eu harddel. Yr oedd yn ddyn gonest, yn eithaf caredig, ac yn barod iawn i dystio mai gwir bob gair oedd yr holl straeon adroddai.

Dyma ni ar ben y rhiw cyntaf, a gwlad Dyfed hen wlad yr Hud, gwlad chwedl am bagan a sant, yn ymestyn o'n blaenau. Golwg oer a thrist sydd arni, gwlad o fryniau penisel, yn ymestyn fel tonnau tua gorwel y gorllewin, heb fôr yn y golwg, heb fynydd. Ffermwyr, moch, gwyddau, peiriannau lladd gwair, - edrychent am y pruddaf. A thraw, yn hanner cylch o'n blaenau, yr oedd cymylau gwgus yn llawn o law oer. Ceisiai'r gyrrwr fod yn llawen, ond yr oedd amheuaeth yn ei lais wrth iddo ddweud,--"Cloudy mornin', fine day, sir." Gyda hynny disgynnodd y wlaw arnom fel pe'i tywelltid o grwc, a chlywn y defnynnau'n rhedeg i lawr rhwng fy nghrys a'm croen. Anodd canu yn y glaw, ac eithaf digalon oeddwn innau. Treiai'r gyrrwr fy nghysuro, a thynnu fy sylw at rywbeth oddi wrth fy sefyllfa anghysurus ac anwydog. Ddangosodd ddyffryn bychan i mi, a