Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn lle unig, mewn pantle ar y lan, ac ymron yn anhygyrch yn y gaeaf, gallwn feddwl. Ond y mae llawer o gyrchu yno yn yr haf. Pe buaswn yno drannoeth, buaswn yno ar y dydd dawnsio, sef dydd Iau. Y mae traeth o dywod melyn caled gerllaw'r dafarn, a chyrcha bechgyn a genethod yr ardaloedd cylchynol yno ar brynhawniau Iau i ddawnsio, a daw lluoedd mewn cychod o'r lan gyferbyn i'w cyfarfod.

Wrth i mi ddringo ar hyd y ffordd serth ar ôl y ferlen o bantle'r dafarn, gwelwn y traeth prydferth, ac ni welais erioed gymaint cynulleidfa o wylanod y môr a'r dyrfa o honynt oedd yn edrych yn astud ar y llanw'n mynd allan. O hyn i Dyddewi yr oedd y wlad yn dlysach a'r bobl yn fwy diddorol. Ochrau rhedynog oedd yno, a gwartheg duon, - yn codi hiraeth am y llefrith melys hwnnw na cheir ond gan wartheg sy'n pori ochrau mynyddoedd. Brethyn cartref oedd gwisg y bobl, neu rywbeth ar ei lun, - brethyn da, ffedog stwff, a bectwn yspotiog. Holent fi'n awchus, a methent wybod oddi wrth fy iaith o ba ran o Gymru y deuwn. Gwahoddent fi'n groesawus i'w tai, ond yr oedd yn rhaid i mi gyfeirio eu sylw at y gyrrwr a'i geffyl yn llafurus ddringo'r gorifyny o'm blaen, ac ymron cyrraedd pen y rhiw. Byddai raid i minnau redeg, braidd cyn dechrau'r ymddiddan, i ddal y cerbyd ac i neidio iddo, a rhedai'r ferlen yn