Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelais lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn crogi uwch ei phen. Es trwy'r llidiart hwn, ac wedi cerdded ychydig funudau gwelwn Dolwar Fechan o'm blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd Maldwyn. Y mae'r tŷ'n newydd, a golwg lan a chysurus arno yng nghanol ei erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn bychan, y mae'r adeiladau, — yr ysguboriau, y beudai, yr helm drol, — rhai ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded gyda'u muriau. Yn nes i lawr y mae'r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna weirgloddiau dan eu gwair.

Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi'r ffrwd sy'n rhedeg o'r ffynnon, — dyfroedd gloyw fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer blwyddyn cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed bennod a deugain Eseciel. Oddi wrth yr adeiladau hyn, dringais i fyny at y tŷ, gan geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno. Es trwy lidiart yr ardd, a phan oeddwn yn edmygu'r blodau, daeth hen wraig hardd, a'i wyneb yn wenau i gyd, i'm croesawu.

"Dyma Dolwar Fach, ynte?"

"Ie, dowch i fewn o wres yr haul. Ydech chwi'n dwad o bell, gen mod i mor hyf â gofyn?"