Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ychydig yn uwch i fyny dyma'r Deildref Ucha, cartref Cadwaladr Jones Dolgellau, hen olygydd y Dysgedydd. Ar y chwith, rhyw ddau hyd gae o'r ffordd, y mae'r Wern Ddu, cartref yr hen Gadwaladr Williams garedig fu'n ceisio darbwyllo Ap Fychan pan yn hogyn nad ai plant llygaid gleision i'r nefoedd, ac mai Deio'r Graig oedd yn achosi'r taranau trwy fynd o ben y castell i lawr y nefoedd, a gyrru olwyn ar hyd iddo. Ymhellach ymlaen, wedi mwynhau golygfeydd rhamantus, dyma ni wrth y Tŷ Mawr lle y daeth Ap Fychan yn hogyn cadw pan yn ddeg oed, a'r lle y bu am saith mlynedd, yn mwynhau llawer o fanteision crefyddol, dan lywodraeth gref gariadlawn y wraig fwyaf deallus mewn diwinyddiaeth a welodd erioed.

Cyn hir, gyda ein bod wrth droed craig y castell, dyma ffordd yn croesi ein ffordd ni, ac yn rhedeg ar draws y cwm. Trown ar y chwith ar hyd-ddi, a dyma ni wrth Hafod y Bibell. Clywodd llawer un Ap Fychan yn dweud mai yn Hafod y Bibell y dymunai fyw. Darluniai'r golygfeydd welid o'r hafod honno, - y mynyddoedd, gwaelod dyffryn Penanlliw a Llanuwchllyn, a Llyn Tegid hefyd am wn i. Tybiai pobl ddieithr, wrth glywed Ap Fychan yn darlunio'r lle, mai palas y gellid ei alw'n Ddymunol, yng ngwlad Beulah, oedd Hafod y Bibell. A dyma'r lle. Y mae'n dechrau adfeilio erbyn hyn,