Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Tan y Castell


yn yr hanner gaeafol o'r flwyddyn, ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a chwe cheiniog. Felly, prin y gallem gael bara, heb sôn am enllyn, gan y ddrudaniaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws, ymenyn, cig, na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a'u rhoddai i ni i'w bwyta gyda'r dwfr y berwasid hwynt ynddo, ac nid oedd ganddi ddim oedd well iddi ei hun, er bod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd. Yr wyf yn cofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor wael."