Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gadarn ac iach. Llawer hanes rhyfedd adroddir am grefyddwyr y fro hon. Ond dyma ni wrth Dŷ Cerrig. Yn y cyntedd o flaen y tŷ dywed traddodiad fod y Crynwyr wedi ymgyfarfod laweroedd o weithiau. Byddai rhyw gyfaill crwydrol yn sefyll ar garreg agosaf i'r tŷ, ac yn traethu. Eisteddai'r cyfeillion mwyaf blaenllaw ar y garreg arall, a safai y dorf. Ni wyddys mawr o fanylion hanes y Crynwyr, ond y mae'n sicr eu bod wedi gadael rhyw dynerwch enaid, a rhyw hoffter greddfol o'r efengyl yn y fro hon.

Ffurfiwyd meddwl Ap Fychan dan ddylanwadau iach. Gadewch i ni droi i fyny tua, Chraig y Llan, lle y bu'n hogyn cadw'r caeau, ac mi adroddaf i chwi beth glywais gan hen bobl am dano. Bu am dymor pan meddylid nad oedd llawer iawn o ôl gras ar ei fuchedd. Pan oedd yn egwyddorwas yn y Lôn draw, yr oedd wedi ei brentisio i ŵr crefyddol, - Simon Jones y Lôn. Yr oedd gan Simon Jones fab, - un athrylithgar a direidus, - ac efe oedd hoff gydymaith y prentis go. Ambell dro canent i ryw elyn, -

"Yr un aeliau, a'r un olwg,
A'r un drem, a'r gŵr drwg"

Cedwid Ysgol Sul yng Nghaer Gai; a holai Thomas Ffowc y plant. Un tro gofynnodd i hogyn bychan sydd erbyn hyn yn ŵr cyfrifol yn yr America, —