deuswllt oedd hynny'n feddwl, a rhoesant ffigwr un o flaen y ffigwr dau.
Gwahanwyd y ddau gyfaill mynwesol ac athrylithgar hyn yn eu marwolaeth. Y mae Ap Fychan yn huno ym mynwent Llanuwchllyn, yn ymyl Simon Jones a Mari Jones. Ac y mae Thomas Jones, mab y rhain, yn huno yr ochr arall i'r Werydd, yn Utica. Ond y mae ei enw yntau ar feddfaen ei deulu, — bu farw yn 1847, yn chwech a deugain oed.
Na feddylier oddi wrth hyn fod Ap Fychan wedi byw'n fachgen gwyllt. Ni chollodd ei dad ei ddylanwad ar ei gymeriad. Ychydig cyn ei farw, yr oedd yn adrodd breuddwyd wrth Ifan T. Davies. “Yr oeddwn i'n breuddwydio neithiwr, Ifan,” meddai, “'mod i'n gweld fy nhad, a dene'r tro cyntaf i mi i weld o er pan fu o farw. Yr oeddwn i ag ef yn cerdded ar hyd ffordd deg wastad-lefn. Yr oeddwn i'n blentyn ac yn cydio yn i law o. Hefo'r ffordd yr oedd aber o ddŵr grisialaidd yn ddwndwr. Dros y gwrych yr oedd drysni, o ddrain a rhedyn a mieri, fel y Wenallt, ac yng nghanol y drysni 'roedd dyn. A dyma fo'n gwaeddi ar fy nhad, — 'Ddyn annwyl, fedrwch chi ddangos y ffordd i'r bywyd tragwyddol i mi?' 'Medra,' medda nhad, ac yn dangos i fys at y ffordd deg, 'dyma hi, mae Rhobet a minnau wedi bod yn i cherdded hi ers blynyddoedd.”