Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GERDDI BLUOG

.

Yr oeddwn wedi meddwl llawer am weld cartref Edmwnd Prys, y cartref sydd yng nghanol y mynyddoedd, y cartref lle cyfieithwyd Salmau Israel i'r iaith Gymraeg. Tybiais mai canol haf oedd yr amser gorau i fynd yno ar draws y bryniau, gan fy mod yn meddwl bob amser mai haf yng Nghymru ydyw'r tymor darlunnir yn y Salmau, pan hiraetha'r byd am yr aberoedd dyfroedd, a phan fo'r porfeydd gwelltog yn hyfryd ar lan dyfroedd araf. "Gefn trymaidd yr haf," chwedl pobl Harlech, y dechreuais ddringo'r bryniau serth sydd rhwng glan y môr a'r cartref yn y mynyddoedd.

Pan eisteddais i orffwys gyntaf, yr oeddwn ar fryn uwchlaw Castell Harlech,- y môr oddi tanaf a'r mynyddoedd uwch fy mhen, y mynyddoedd sydd rhwng glan y môr a gwastatir uchel Trawsfynydd. Llecyn hyfryd odiaeth oedd hwnnw. Dros gaeau o datws gwyrddion, gydag ambell flodeuyn piws ar y cae gwyrdd, gwelwn donnau gwynion afrifed y môr, a'r haul yn goreuro eu hewyn. Os wyt yn ymhyfrydu mewn lliwiau, buasai yn dda gennyt fod gyda mi yno,- i weled y gwyrdd yn dy ymyl, a'r gwyn gyda gwawr aur arno draw drosto. Tybiwn ei fod yn gyfuniad o liwiau prydferthaf nef a daear; ac yn y cyfuniad yr oedd ei swyn.