Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi croesi'r gefnen hon eto, daethom i olwg y Cwm Bychan, ac wele wlad Edmwnd Prys o'n blaenau. Natur yn ei pherffeithrwydd sydd yno, ni welir ond ychydig o ôl llaw dyn arni, ac y mae'n sicr fod yr olwg a gawn ar y Cwm Bychan yn union yr un fath a'r olwg gâi Edmwnd Prys arni wrth gyfieithu'r Salmau, dair canrif yn ôl.

Gyda'n bod yng ngolwg y cwm, gwelem fynyddoedd yn codi'n sydyn o'n blaenau, a golwg ddu fygythiol arnynt. Pan welais y cwm gyntaf, nid fel cyfieithydd y Beibl y daeth Edmwnd Prys i'm meddwl, ond fel y swynwr fu'n ymryson a Huw Llwyd Cynfel. Ond buan y cynefinodd fy llygaid a'r mynyddoedd geirwon serth, a gwelais y llyn tawel sy'n gorwedd wrth eu traed. Yr oedd rhes o goed rhyngom ag ef, a gwelem ei ddyfroedd gleision tawel rhwng y canghennau. Y tu hwnt i'w gwr uchaf gwelem gaeau llechweddog a rhai gwastad. Y tu hwnt iddynt yr oedd y mynyddoedd o hyd; yr oedd niwl ar ben Carreg y Saeth a'r Rhiniog Fawr, a nis gallem weled pa mor uchel oeddynt.

Ond ymhle mae'r Gerddi Bluog?

Yn union oddi tanom, yr ochr yma i'r cwm. Byddwn yno mewn ychydig funudau. Dechreuasom ddisgyn hyd y llwybr serth, drwy gaeau bychain, llawn o goed gwern ac eithin a grug. A hyd ochr y nant gwelem y feidiog las a lliaws o flodau nad oedd gennym ni enwau arnynt. Yr