distaw dwys y mynyddoedd yn adfywiol iawn. Yr oedd y dwfr mor risialaidd, y lliwiau mor danbaid, a'r hin mor heulog, fel mai prin y medrwn goelio fy mod yng Nghymru. Wrth weled y llwybr Rhufeinig, tybiwn er fy ngwaethaf fy mod ar lethrau'r Apeninau Disgynnai'r afonig fechan i'n cyfarfod, o graig i graig, gan fynd yn llai o hyd. Weithiau gwelem fedwen yn crymu uwch ben pistyll gwyn; dro arall gwelem y grug blodeuog wedi ymestyn dros y llwybr. Synnwn paham na threuliwn fy oes ar y mynydd, a daeth i'm meddwl mor ynfyd oeddwn pan oeddwn yn treulio fy oes ar yr iseldiroedd. Toc darfodd yr arber, a daethom at ffynnon loyw ymysg cerrig mawr. Ond nid oeddem eto ar ben y mynydd. Yr oedd ochrau'r mynydd, erbyn hyn, wedi cau at ei gilydd, yn furiau o gerrig enfawr.
Yr oeddem wedi edifarhau am wrthod bwyd yn y Gerddi Bluog. Er llawenydd i ni, yr oedd coed llus bob ochr i'r grisiau, ymron ar ben y mynydd. Cawsom wledd arnynt, cyn dringo i ben y golwg. Ac o'r diwedd, wele ni ar ben y fynedfa; a gwelem lwybr hir yn dirwyn i lawr i wastadedd Traws Fynydd. Clywem yr afon yn murmur yn ddedwydd i lawr yn y gwaelod. Ond tybiwn i mai ar ben mynydd yn unig y mae dedwyddwch.
Edrychasom yn ôl ar y llwybr gerddasem.