Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PANT Y CELYN.

"Ym mhle mae Pant y Celyn?" ebe athro yn un o golegau'r Methodistiaid Calfinaidd wrthyf unwaith. Yr oedd ton gwerylgar yn ei gwestiwn, oherwydd ei fod yn gorfod gofyn peth oedd yn dangos cymaint o anwybodaeth. Nid oeddwn yn ddigon rhagrithiol i ddweud fy mod yn synnu at ei anwybodaeth, oherwydd ni wyddwn fy hun, cyn mynd yno, ym mha un o bedair neu bum sir yr oedd Pant y Celyn. Er hynny nid oes odid aelwyd yng Nghymru nad ydyw Pant y Celyn yn air teuluaidd arni.

Ryw ddiwrnod yn yr haf diweddaf yr oeddwn yn teithio o fynydd diroedd Llanwrtyd drosodd i ddyffryn Tywi, ac i lawr ar hyd y dyffryn enwog hwnnw. Wedi rhediad chwyrn i lawr hyd ochrau'r mynyddoedd, daethem i Lanymddyfri